Mae bws oedd yn teithio ar gyflymder uchel wedi gwyro oddi ar y ffordd a phlymio i afon yn nwyrain India, gan ladd 12 o bobol ac anafu 35.

Fe gollodd y gyrrwr reolaeth o’r cerbyd ar bont ger tref Sitamarhi yn nhalaith Bihar. Mae’r bobol sydd wedi’u hanafu wedi’u cludo i ysbyty yn nhref Muzaffarpur.

Mae craen yn cael ei ddefnyddio i godi’r bws o wely sych afon Bagmati.