Mae ffrwydriad wedi taro confoi prif weinidog Palesteina ar ymweliad prin â Gaza – a’r ofn yw mai’r bwriad oedd i’w ladd.

Chafodd Rami Hamdallah ddim ei anafu yn yr ymosodiad, ond mae’r Awdurdod Palesteinaidd wedi cyhuddo gwrthryfelwyr yn Gaza o geisio ei ladd.

Fe gafodd tri o gerbydau’r confoi eu difrodi, a’u ffenestri eu chwalu’n llwyr. Mae diferion gwaed i’w gweld ar ddrws un car.

Roedd Rami Hamdallah wedi cyrraedd Gaza er mwyn agor prosiect newydd i drin carthffosiaeth. Mae Banc y Byd, yr Undeb Ewropeaidd a llywodraethwyr Ewrop wedi talu bron iawn i $75m i’w ariannu.