Mae’r efengylwr adnabyddus Billy Graham wedi marw’n 99 oed. Roedd wedi bod yn dioddef o ganser, niwmonia a sawl salwch arall.

Roedd yn enwog yn yr Unol Daleithiau am ei bregethu carismataidd a’i ymgyrchu.

Roedd wedi cynghori sawl Arlywydd ar hyd y blynyddoedd, gan deithio i wledydd Prydain nifer o weithiau. Yn 1954, fe bregethodd i fwy na dwy filiwn o bobol dros gyfnod o dri mis yn Llundain.

Mae’r Arlywydd presennol, Donald Trump wedi dweud “nad oedd neb tebyg iddo” a’i fod yn “ddyn arbennig iawn”.

Yn wahanol i nifer o efengylwyr traddodiadol, fe ddefnyddiodd ei ymddangosiadau niferus ar deledu a radio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gan osod y ffydd Efengylaidd ymhlith credoau mwya’ poblogaidd y wlad.

Mae lle i gredu ei fod e wedi pregethu ac wedi lledaenu ei negeseuon mewn mwy na 185 o wledydd a thiriogaethau. Ond roedd yn cael ei ystyried yn rhy gymhedrol wrth drafod hawliau sifil.

Serch hynny, roedd yn gyfrifol am ddod â gwahanu pobol groenddu a phobol â chroen gwyn i ben, ac fe wrthododd fynd i Dde Affrica yn ystod aparteid.

Yn 1983, fe dderbyniodd anrhydedd sifil fwyaf yr Unol Daleithiau, sef Medal Ryddid yr Arlywydd, gan Ronald Reagan. Cafodd amgueddfa ei henwi ar ei ôl yn 2007, ac roedd nifer o gyn-arlywyddion yn y seremoni.

Mae lle i gredu ei fod e wedi pregethu wyneb-yn-wyneb i fwy na 210 miliwn o bobol ar draws y byd.

Bu farw ei wraig, Ruth, yn 2007. Mae’n gadael pump o blant.