Mae pryder bod 90 o bobol wedi boddi ar ôl i gwch smyglwr yn cario mewnfudwyr o Bacistan droi drosodd oddi ar arfordir Libya.
Dywedodd llefarydd ar ran asiantaeth fudo’r Cenhedloedd Unedig fod 10 corff wedi’u golchi i’r lan ger tref Zuwara yn dilyn y drasiedi yn gynnar heddiw.
Y gred yw bod wyth o’r meirw yn dod o Bacistan a’r ddau arall yn dod o Libya.
Mae mwy o ddinasyddion Pacistan wedi bod yn ceisio croesi y Môr Canoldir yn ddiweddar i gyrraedd Ewrop drwy Libya.