Yn ei araith gyntaf ar Gyflwr yr Undeb, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi galw ar wleidyddion i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â phroblemau’r wlad.

“I bob dinesydd sydd yn gwylio o’u cartrefi heno, o le bynnag yr ydych chi wedi bod ac o le bynnag yr ydych chi’n dod, eich cyfnod chi yw hwn,” meddai Donald Trump.ain

“Os ydych chi’n gweithio’n galed, os ydych chi’n credu yn eich hunain ac yn America, gallwch freuddwydio am beth bynnag, gallwch fod yn unrhyw beth, a gyda’n gilydd, gallwn wireddu unrhyw beth.”

Er ei alwad am “undod”, mae tensiynau mawr o hyd yn Washington, gydag anghydfod yn parhau rhwng y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr tros sawl mater.

Cynnwys yr araith

Ffocws yr araith, yn bennaf, oedd yr hyn yr oedd wedi’i gyflawni’r llynedd, ac un cynllun wnaeth dderbyn tipyn o sylw oedd ei ddiwygiadau treth.

Wrth edrych at y flwyddyn i ddod, dywedodd y byddai’n gwario £1.06 triliwn ar isadeiledd â phartneriaethau â’r sector breifat.

Er bod gofal iechyd wedi bod wrth graidd agenda polisïau’r Gweriniaethwyr ers blynyddoedd, ychydig iawn oedd gan yr Arlywydd i ddweud am y mater yn ei araith.