Mae dwsinau o ddamweiniau ceir wedi bod yn y Weriniaeth Tsiec, wedi i eira wneud amodau teithio yn anodd ac yn beryglus.

Roedd swyddfa dywydd y wlad wedi rhybuddio y byddai’r tywydd oer yn effeithio chwech allan o’r 14 talaith, a’r oerni mwyaf yn y dwyrain.

Mae priffordd y D1, sy’n cysylltu’r brifddinas, Prâg, gyda dwyrain y wlad, wedi bod ynghau mewn nifer o fannau, wedi damweiniau yn cynnwys ceir a lorïau.

Mae beth bynnag ddau o bobol wedi’u hanafu.

Mae rheolwyr traffig yn dweud iddyn nhw dderbyn cant o adroddiadau am ddamweiniau yn ystod dydd Mawrth (Ionawr 16) yn ne-ddwyrain y wlad, lle mae’r ail ddinas fwyaf, Brno.