Mae Carles Puigdemont, arweinydd Catalwnia sydd ar ffo yng Ngwlad Belg, wedi galw ar Lywodraeth Sbaen i adfer ei lywodraeth ac i gydnabod canlyniadau’r etholiadau cenedlaethol.

Dywedodd ar wefannau cymdeithasol fod gan ei lywodraeth yr hawl i lywodraethu.

Ond fe gafodd ei symud o’i swydd, ynghyd ag aelodau ei gabinet, ar ôl cynnal refferendwm annibyniaeth fis Hydref oedd yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Serch hynny, pleidiau o blaid annibyniaeth enillodd y rhan fwyaf o’r seddi yn dilyn yr etholiadau’r wythnos ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Sbaen yn amau Carles Puigdemont o annog gwrthryfel yn y wlad, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n dychwelyd i Sbaen neu i Gatalwnia i wynebu cyhuddiadau.