Yng Nghaliffornia, mae mwy na 30,000 o bobol wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi yn Santa Barbara wrth i danau gwyllt ledaenu ar draws 270 milltir sgwâr o’r dalaith.

Bu’n rhaid i drigolion ffoi o’u cartrefi ar ôl i’r tanau waethygu ddydd Sul oherwydd gwyntoedd cryfion.

Fe lwyddodd criwiau tan mewn hofrenyddion ac awyrennau sy’n gollwng dŵr i achub cartrefi wrth i’r tanau ledu tuag at ardaloedd i’r gogledd orllewin o Los Angeles.

Mae miloedd o gartrefi a busnesau yn ardal Santa Barbara heb gyflenwad trydan.

Oherwydd y mwg trwchus, mae mygydau wedi cael eu rhoi i drigolion sydd wedi penderfynu aros yn  Montecito, yr ardal gyfoethog sy’n gartref i enwogion fel Oprah Winfrey, Jeff Bridges, Ellen DeGeneres a Rob Lowe.

Fe ddechreuodd y tanau yn Ventura County ar 4 Rhagfyr ac mae tua 800 o gartrefi ac adeiladau wedi cael eu difrodi ers hynny.