Mae Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe, wedi ymddiswyddo, ar ôl bod wrth y llyw ers 37 o flynyddoedd.

Fe fu dathlu yn senedd Zimbabwe wrth i lythyr ymddiswyddo Robert Mugabe, sy’n 93 oed, gael ei ddarllen.

Yn ei lythyr, dywedodd ei fod yn ymddiswyddo o’i wirfodd a hynny oherwydd ei “bryder am les pobl Zimbabwe” a’i ddymuniad i’r broses o drosglwyddo grym fod yn ddidrafferth.

Yn ôl llefarydd y senedd mi fydd y broses o’i uchelgyhuddo yn dod i ben, ac mi fydd y gwleidydd yn camu o’r neilltu “yn syth”, yn sgil y cyhoeddiad.

Mae miloedd o bobl wedi bod yn dathlu ar strydoedd y brifddinas Harare.

Wythnos o ansicrwydd

Daw’r cyhoeddiad wedi wythnos o ansicrwydd yn y wlad ar ôl i Robert Mugabe gael ei arestio yn ei gartref gan fyddin y wlad.

Trwy’r broses uchelgyhuddo roedd Robert Mugabe yn wynebu honiadau ei fod wedi “caniatáu i’w wraig gipio grym cyfansoddiadol”.

Roedd adroddiadau hefyd bod ei wraig, Grace Mugabe, wedi bygwth lladd y cyn-Ddirprwy Arlywydd, Emmerson Mnangagwa, sydd wedi ffoi o’r wlad.

Emmerson Mnangagwa fydd yn olynu Robert Mugabe a hynny o fewn y 48 awr nesaf, meddai llefarydd ar ran y brif blaid ZANU-PF.