Mae hi’n bosib y bydd arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont yn cael ei estraddodi o Wlad Belg dros y dyddiau nesaf.

Fe wnaeth e a nifer o wleidyddion eraill ffoi i’r wlad yn dilyn y refferendwm annibyniaeth diweddar ar ôl i warant gael ei gyhoeddi i’w harestio.

Mae lle i gredu eu bod nhw’n dal i fod yng Ngwlad Belg, ond dydy eu hunion leoliad ddim wedi cael ei ddatgelu.

Dywedodd Carles Puigdemont ar ei dudalen Twitter ddyd Sadwrn ei fod yn fodlon “cydweithredu” ag awdurdodau Gwlad Belg, ond mae ei gyfreithiwr wedi dweud y byddai’n brwydro yn erbyn unrhyw ymgais i geisio’i orfodi i fynd i Sbaen.

Dywedodd erlynwyr eu bod nhw’n adolygu’r sefyllfa, a’u bod yn awyddus i roi’r broses estraddodi ar waith cyn gynted â phosib.

Carles Puigdemont yn parhau i weithio

Er ei fod e allan o’r wlad a’i lywodraeth wedi’i diddymu gan awdurdodau Sbaen, mae Carles Puigdemont yn parhau i arwain Catalwnia o bell.

Fe siaradodd mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Mawrth, ac roedd e ar deledu yng Ngwlad Belg ddydd Gwener.

Anfonodd e neges yn yr iaith Gatalaneg ar Twitter i’w ddilynwyr hefyd, gan gyfrannu at drafodaeth ymhlith ymgyrchwyr am annibyniaeth ynghylch eu strategaeth ar gyfer etholiadau cenedlaethol yn Sbaen ym mis Rhagfyr.

Yn ei neges ar Twitter, dywedodd ei bod hi’n “bryd i’r holl ddemocratiaid uno”.

Fe fydd hawl gan wleidyddion sydd wedi’u carcharu i sefyll yn yr etholiad os nad ydyn nhw wedi’u cael yn euog cyn hynny.

Beirniadu

Yn Barcelona, mae Carles Puigdemont wedi cael ei feirniadu gan bleidiau sydd o blaid undod Sbaen.

Dywedodd arweinydd plaid Citizens, Albert Rivera ei fod e wedi cael ei haeddiant am ei ran yn y refferendwm “anghyfreithlon”.

Rhybuddiodd Carles Puigdemont i “ddangos ei wyneb gerbron y gyfraith”.

Ychwanegodd arweinydd y Sosialwyr, Miquel Iceta ei bod hi’n “bryd adeiladu pontydd, nid codi ffiniau”.

Fe allai Carles Puigdemont wynebu cyhuddiadau o wrthryfela, annog gwrthryfel ac embeslo pe bai’n dychwelyd i Gatalwnia.