Muammar Gaddafi
Mae Muammar Gaddafi wedi gwadu sïon ei fod wedi ffoi i Niger, gan ddweud na fydd “byth eto yn gadael gwlad ei gyndadau”.
Galwodd unwaith eto ar ei gefnogwyr i frwydro’n ôl yn erbyn y gwrthryfelwyr mewn neges gafodd ei ddarlledu ar sianel deledu gefnogol, heddiw.
Daw’r darllediad yn dilyn sylwadau anghyson ynglŷn â lleoliad yr unben, oedd wedi rheoli Libya am 42 mlynedd.
Dyw e heb ei weld yn gyhoeddus ers misoedd ac wedi cyhoeddi negeseuon sain yn unig yn ymosod yn ffyrnig ar ei wrthwynebwyr.
Mewn neges ar sianel deledu Al-Rai TV yn Syria, dywedodd fod y gwrthryfelwyr yn “hurfilwyr, labystiaid a bradwyr” ac annog ei ddilynwyr i’w maeddu nhw.
“Rydyn ni’n barod i ddechrau’r frwydr yn Tripoli ac ym mhobman arall, ac ymosod arnyn nhw,” meddai.
“Dyw’r germau a’r llygod llysnafeddog yma ddim yn Lybiaid. Maen nhw wedi cyd-weithio â Libya.
“Ni fydd Gaddafi yn gadael gwlad ei gyndadau.”