Mustafa Abdul-Jalil - heb egluro'n llawn (tib115 CCA 3.0)
Mae yna ddirgelwch tros farwolaeth arweinydd milwrol y gwrthryfelwyr yn Libya.

Mae’n ymddangos fod Abdel-Fattah Younis wedi cael ei saethu wrth iddo fynd i gael ei holi gan bwyllgor ym mhencadlys y gwrthryfelwyr yn Benghazi.

Wrth gyhoeddi ei farwolaeth, fe ddywedodd yr arweinydd gwleidyddol, Mustafa Abdul-Jalil, fod y cadfridog a dau o’i warchodwyr wedi cael eu saethu’n farw gan ymosodwyr.

Roedd Abdel-Fattah Younis yn cael ei ystyried yn ffigwr pwysig yn y gwrthryfel – ef oedd y cynta’ o weinidogion yr Arlywydd Mummaar Gaddafi i newid ochr.

Roedd yn arfer bod yn Weinidog Materion Mewnol yn llywodraeth Gaddafi ac, yn ôl Mustafa Abdul-Jalil, roedd yn un o arwyr y gwrthryfel a ddechreuodd ar 17 Chwefror eleni.

Holi

Ond, yn ôl rhai adroddiadau, fe gafodd ei ladd pan oedd ar fin cael ei holi am ei gysylltiadau gyda’r unben. Dyw arweinwyr y gwrthryfelwyr ddim wedi egluro pam y cafodd ei ladd, na gan bwy.

Fe allai ei farwolaeth fod yn arwydd o rwyg ymhlith y gwrthryfelwyr ac fe allai hynny fod yn ddyrnod i’r cynghreiriaid gorllewinol sy’n cefnogi’r gwrthryfel ac eisiau eu cydnabod yn llywodraeth swyddogol y wlad.

Dyw hi ddim yn glir chwaith a yw cyrff y tri wedi eu ffeindio ai peidio.