Anders Behring Breivik
Mae saethwr Norwy, Anders Breivik, yn wallgof a does ganddo ddim syniad fod ei ymosodiadau wedi eu beirniadu ledled y byd, meddai ei gyfreithiwr.

Daw sylwadau Geir Lippestrad ar ôl iddo gael cyfle i drafod â Anders Breivik sy’n cael ei gadw mewn cell ar wahân i weddill y carcharorion.

Dywedodd Anders Breivik wrth ei fod yn credu fod ei gynllun wedi gweithio.

Roedd wedi cymryd cyffuriau er mwyn bod yn “gryf, effeithlon ac effro” cyn yr ymosodiad laddodd 93 o bobol yn Oslo a gwersyll pobol ifanc ar gyrion y brifddinas.

Dywedodd Geir Lippestrad fod Anders Breivik, 32 oed, yn ddyn “oeraidd” iawn oedd yn dweud fod y lladdfa yn gwbl angenrheidiol.

“Mae’r achos cyfan yn awgrymu ei fod yn wallgo’,” meddai Geir Lippestrad.

“Roedd yn dweud fod dwy gell arall yn Norwy, a sawl un dramor.”

Dywedodd fod ymddangosiad Anders Breivik o flaen llys ddoe wedi ei gynnal y tu ôl i ddrysau caeedig rhag ofn iddo anfon cyfarwyddiadau at y celloedd eraill yma.

Ychwanegodd fod yr ymosodiadau yn “absẃrd ac erchyll” ac nad oedd yn deall pam fod Anders Breivik wedi ei ddewis yn gyfreithiwr iddo.