William Hague - nefar in Ewrop
Fydd gwledydd Prydain ddim yn derbyn cynnig i sefydlu pencadlys milwrol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfarfod o weinidogion tramor, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor na fyddai’r Llywodraeth yn cytuno i’r fath beth “yn awr nac yn y dyfodol”.

Roedd y cynllun wedi cael ei awgrymu gan yr Arglwyddes Lafur, y Farwnes Cathy Ashton, sydd bellach yn bennaeth polisi tramor yn yr Undeb Ewropeaidd.

Er bod llawer o wledydd yn cefnogi’r cynllun, er mwyn cryfhau gweithredu’r Undeb ym maes diogelwch ac amddiffyn, fe fydd rhaid cael penderfyniad unfrydol gan bob aelod cyn y daw i fod.

‘Dyblygu’

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, mwy o gydweithio sydd ei angen ac fe fydd hynny’n bosib trwy wella’r hyn sydd ar gael eisoes.

Fe fyddai pencadlys Ewropeaidd yn dyblygu’r hyn oedd eisoes yn cael ei gynnig gan NATO, meddai.

Fe aeth un aelod Ceidwadol o Senedd Ewrop, Geoffrey Van Orden, ymhellach trwy ddweud y byddai milwyr Prydeinig yn gorfod derbyn gorchmynion gan bencadlys Ewropeaidd.