Cyrnol Gaddafi - dan bwysau cynyddol
Mae lluoedd llywodraeth Libya wedi ymosod ar gyrion Misrata, un o ddinasoedd allweddol y gwrthryfelwyr, gan ladd o leiaf 22 o bobl.

Dywedodd meddyg mewn ysbyty yn y ddinas fod lluoedd Muammar Gaddafi wedi defnyddio tanciau, gynnau mawr a rocedi tân, a bod o leiaf 61 arall o bobl wedi cael eu hanafu.

Roedd lluoedd Gaddafi wedi ymosod o’r newydd gerllaw Misrata ddydd Mercher – dinas sy’n rheoli porthladd mwyaf Libya, ac un o’r ychydig droedleoedd sydd gan y gwrthryfelwyr yng ngorllewin y wlad.

Lluoedd y gwrthryfelwyr sy’n rheoli rhan helaeth o ddwyrain y wlad, ond mae lluoedd Gaddafi yn amgylchynu Misrata ac eithrio’r ochr ogleddol, lle mae gan y ddinas fynediad at y Môr Canoldir trwy brif borthladd Libya. Mae’r gwrthryfelwyr wedi llwyddo i wrthsefyll sawl ymgais gan luoedd y llywodraeth i ailgipio’r ddinas.

Tripoli

Mae’n ymddangos mai prif amcan lluoedd Gaddafi yw rhwystro’r gwrthryfelwyr rhag symud o Misrata tuag at y brifddinas Tripoli, lle mae Nato wedi bod yn dwysáu’r ymosodiadau dros y dyddiau diwethaf.

Gyda Gaddafi fwyfwy o dan warchae, fe ddywedodd prif weinidog Twrci ddoe fod ei wlad wedi cynnig rhyw fath o warantau i’r unben petai’n gadael Libya, ond na chafwyd unrhyw ymateb.

“Does ganddo ddim dewis arall ond gadael Libya, gyda’r amod ei fod yn cael gwarantau penodol,” meddai Recep Tayyip Erdogan mewn cyfweliad teledu.

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Amddiffyn America, Robert Gates, wedi pwyso ar wledydd Nato, gan gynnwys yr Iseldiroedd, i wneud mwy i rannu’r baich gyda Ffrainc a Phrydain, sy’n cyflawni’r rhan fwyaf o’r ymosodiadau o’r awyr.