Chicago
Mae bachgen tair oed wedi marw ar ôl disgyn o gar sglefrio mewn parc antur yn Chicago.

Roedd y bachgen yn eistedd ger blaen y car sglefrio Python Pit ym mharc antur Go Bananas pan aeth dan y rhwystr diogelwch, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Dywedodd pennaeth heddlu Norridge, James Jobe, fod y bachgen wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben yn ystod y “ddamwain trasig”.

Roedd y bachgen ar y car sglefrio gyda’i efell pan ddisgynnodd ohono ddydd Sadwrn, meddai’r heddlu.

Mae’r awdurdodau yn credu fod y bachgen, o Dolton ar gyrion Chicago, yn ddigon mawr i fynd ar y car sglefrio.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa meddygol Swydd Cook fod y bachgen wedi marw yn y parc.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y parc antur eu bod nhw’n cydweithio â’r heddlu er mwyn cael gwybod beth ddigwyddodd.

“Rydyn ni’n drist iawn,” meddai.