Adeilad wedi ei ddifrodi ger tref Al-Egila ar y ffordd i Ras Lanouf yn nwyrain Libya heddiw (AP Photo)
Mae’r gwrthryfelwyr yn Libya yn dechrau ennill tir o ddifrif ar ôl ailgipio dau safle olew allweddol oddi ar luoedd y Cyrnol Gaddafi.

Ar ôl adennill rheolaeth o’r porthladd olew, Brega, yn hwyr neithiwr, maen nhw bellach wedi ailgipio purfa olew Ras Lanouf yn ogystal.

Rhyngddyn nhw, roedd Ras Lanouf a Brega’n gyfrifol am gyfran helaeth o allforion olew Libya, a oedd gymaint ag 1.5 miliwn o fareli’r diwrnod cyn y gwrthryfela a gychwynnodd yn y wlad ar Chwefror 15.

O’r herwydd, fe allai adennill grym yn y ddau safle olygu y bydd gan y gwrthryfelwyr reolaeth dros werthiant olew’r wlad.

Fe symudodd lluoedd y gwrthryfelwyr yn gyflym tua’r gorllewin ar ôl adennill Brega neithiwr, gan gipio tref fach Al-Egila ar eu ffordd i Ras Lanouf.

“Doedd dim gwrthsafiad. Fe wnaeth lluoedd Gaddafi doddi i ffwrdd,” meddai Suleiman Ibrahim, gwirfoddolwr 31 oed i’r gwrthryfelwyr. “Allai hyn ddim bod wedi digwydd heb Nato. Fe wnaethon roi cymorth mawr inni.”

Mae’r gwrthryfelwyr yn dal i wthio’u ffordd tua’r gorllewin tuag at y brifddinas Tripoli.

Ehangu gwaharddiad

Mae corff llywodraethol Nato wedi cytuno mewn cyfarfod heddiw i ehangu’r gwaharddiad hedfan i gynnwys ymosodiadau o’r awyr ar dargedau ar y ddaear.

Roedd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi awdurdodi’r gweithredu milwrol i amddiffyn pobl gyffredin ar ôl i Gaddafi ymosod yn filwrol ar brotestwyr sy’n pwyso arno i ymddiswyddo. Roedd y protestwyr wedi cael eu hysbrydoli gan lwyddiant gwrthdystwyr i ddymchwel llywodraethau’r ddwy wlad gyfagos, yr Aifft a Tunsia.

Mae’r ymosodiadau o’r awyr wedi gwanhau gallu milwrol Gaddafi, gan alluogi gwrthryfelwyr i ennill tir lai na phythefnos ar ôl iddyn nhw fod ar fin cael eu trechu.

Fe ddywedodd y Pab Benedict XVI wrth bererinion yn Rhufain heddiw ei fod yn gweddïo am heddwch yn Libya a gogledd Affrica, ac yn apelio am gychwyn deialog rhwng y ddwy ochr er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio arfau.