Carles Puigdemont, arweinydd Catalwnia (Llun: Wicipedia)
Mae prif weinidog Sbaen wedi rhoi tan ddydd Llun (Hydref 16) i arweinydd Catalwnia gadarnhau p’un a yw wedi datgan annibyniaeth ai peidio.

Dywedodd Mariano Rajoy os yw’r arlywydd Carles Puigdemont wedi datgan annibyniaeth, bydd ganddo ychydig mwy o ddyddiau i roi’r gorau i’w gynlluniau i weithredu annibyniaeth.

Mae’r ddau dedlein wedi cael eu hanfon mewn gorchymyn swyddogol at lywodraeth Catalwnia.

Mae’r prif weinidog eisoes wedi rhybuddio y gallai diddymu’r llywodraeth ddatganoledig os bydd y cynlluniau i dorri i ffwrdd o Sbaen yn parhau.

Yn ôl Mariano Rajoy, mae angen i Carles Puigdemont ddweud nad oedd wedi datgan annibyniaeth i sicrhau na fydd hyn yn digwydd.

Gwrthod trafod

Dechrau’r wythnos fe ddywedodd arlywydd Catalwnia ei fod yn atal annibyniaeth dros dro am ychydig wythnosau er mwyn cynnal trafodaethau.

Ond mae Mariano Rajoy unwaith eto wedi dweud na fydd trafod yn bosib “rhwng cyfraith ddemocrataidd ac anufudd-dod ac anghyfreithlondeb.

Ychwanegodd fod y mater yn “un o amseroedd anoddaf ein hanes diweddar” yn Sbaen.