Michelle Obama
Mae gwraig un o gyn-Arlywyddion yr Unol Daleithiau wedi dweud bod diffyg amrywiaeth yng nghefndiroedd gwleidyddion wedi arwain at “ddiffyg ffydd” mewn gwleidyddiaeth yn gyfan gwbwl.

Gwnaeth Michelle Obama ei sylwadau yn ystod cyfweliad mewn cynhadledd o fenywod yn ninas Philadelphia, ddydd Mercher (Hydref 4).

Awgrymodd bod aelodau plaid y Gweriniaethwyr “yn ddynion gwyn i gyd” tra bod plaid y Democratiaid â phobol o gefndiroedd amrywiol.

Â’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar ben blwydd priodas arian Michelle Obama a Barack Obama, fe dderbyniodd neges gan ei gŵr yn ei chanmol tra oedd hi’n cael ei chyfweld.