Cwrdistan - milwyr PKK (Llun: James Gordon CCA 2.0)
Mae dau swyddog cudd-wybodaeth o Dwrci wedi’u harestio gan wrthryfelwyr Cwrdaidd yng ngogledd Irac.

Daeth cadarnhad gan Weinidog Tramor Twrci, Mevlut Cavusoglu fod y ddau wedi cael eu cipio gan aelodau Plaid y Gweithwyr Cwrdaidd, neu’r PKK.

Yn ol Mevlut Cavusoglu, mae’r llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod yr holl wystlon yn cael eu rhyddhau.

Dywed nad yw’r llywodraeth yn Ankara ynghlwm wrth drafodaethau uniongyrchol gyda’r PKK.

 

Yn ôl adroddiadau, cafodd y ddau eu cipio yn ystod cyrch yn erbyn y PKK yn Irac ym mis Awst.

 

Mae’r PKK yn cael ei ystyried yn grŵp brawychol gan awdurdodau Twrci a’u cynghreiriaid.