Mae teiffwn Doksuri wedi taro canolbarth Fietnam, gan gwympo coed, llorio pyst telegraff a chwythu toeau oddi ar dai.

Mae awdurdodau talaith Ha Tinh yn dweud fod yna chwech o ardaloedd wedi’u heffeithio gan y storm a gwyntoedd o hyd at 115mya.

Does yna ddim adroddiadau eto o anafiadau.

Fe wnaeth teiffwn Doksuri ei ffordd trwy’r Ffilipinau ddydd Mawrth. gan ladd pedwar o bobol. Mae chwech o bobol yn dal i fod ar goll.

Mae Fietnam, gwlad o 93 miliwn o bobol, yn cael ei tharo gan lifogydd a stormydd sy’n lladd cannoedd o bobol bob blwyddyn.