Mae barnwr yn Brasil wedi atal gorchymyn arlywyddol sy’n golygu y bydd un rhan o’r Amazon sydd o dan warchodaeth yn agored i fwyngloddio.

Roedd y gorchymyn, a gafodd ei gyflwyno yr wythnos ddiwethaf ac yna ei adolygu, yn diddymu’r warchodaeth ar ardal sy’n fwy o faint na gwlad yr Iseldiroedd – a hynny oherwydd y cyfoeth o aur sydd yno.

Mae nifer o grwpiau ymgyrchu amgylcheddol wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r gorchymyn gan ddadlau y bydd yn achosi niwed i’r amgylchedd a gwrthdaro rhwng y mwynwyr a’r bobol frodorol.

Er i weinyddiaeth yr Arlywydd Michel Temer fynnu na fydd mwyngloddio yn digwydd yn yr ardaloedd hynny sy’n cael eu gwarchod neu’n perthyn i’r bobol frodorol, dadleuodd barnwr ddydd Mawrth bod angen caniatâd y Gyngers i ddiddymu rhan o warchodfa yn yr Amazon.

Dywedodd swyddfa’r Arlywydd ddoe (ddydd Mercher) eu bod nhw am apelio yn erbyn y penderfyniad.