Mae oddeutu 3,000 o ymladdwyr tân yn ceisio diffodd mwy na 150 o danau gwyllt yn Portiwgal, wrth i dywydd poeth ac amodau sych weithio yn eu herbyn nhw.

Yn un lle, mae dros 800 o ymladdwyr, gyda chefnogaeth unedau sy’n tywallt dwr o’r awyr, yn canolbwyntio ar dân anferth ger tref Vila dei Rei yng nghanolbarth y wlad.

Mae teledu Portiwgal wedi bod yn dangos lluniau o’r tanau yn goleuo awyr y nos, cyn i’r wawr ddangos fod y fflamau wedi llosgi coedwigoedd cyfain ar gyrion y dref.

Mae 112 o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi yn Vila dei Rei ers bore ddoe (dydd Llun, Awst 14).

Mae Portiwgal wedi’i tharo’n waeth gan y tanau eleni oherwydd sychder yn y wlad. Mae tanau wedi bod yn llosgi yno ers mis Mehefin, pan gafodd 64 o bobol eu lladd.