Liu Xiaobo (Llun: Gwobr Goffa Nobel)
Mae’r enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Liu Xiaobo, wedi marw yn 61 oed.

Roedd carcharor gwleidyddol amlyca’ China wedi bod yn derbyn triniaeth at ganser yr iau ers mis Mai y llynedd.

Roedd ei gefnogwyr a llywodraethau byd wedi bod yn ceisio perswadio China i ganiatau iddo gael ei drin dramor, ond roedd y llywodraeth yn dweud ei fod yn cael y gofal gorau posib a bod yr afiechyd wedi lledu trwy’i gorff.

Fe gafodd Liu Xiaobo ei anfon i’r carchar am y tro cyntaf yn 1989, yn dilyn protestiadau democratiaeth Sgwar Tiananmen.

Enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 2010, tra’r oedd ar ei bedwerydd cyfnod yng ngharchar.