Mae’r plant a gafodd eu hachub gan Syr Nicholas Winton o wersylloedd Natsiaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi dadorchuddio cofeb i’w rhieni yn ninas Prag.

Fe gafodd 669 o blant eu cario ar wyth o drenau o’r hen Tsiecoslofacia, trwy’r Almaen i wledydd Prydain. Bu farw Nicholas Winton yn y flwyddyn 2015, yn 106 oed.

Ond fe gafodd y plant eu hanfon at deuluoedd maeth, tra bu farw’r rhan fwyaf o’u rhieni yn ystod yr Holocost.

Mae’r gofeb ‘Y Ffarwel’ ar ffurf drws tren, gyda dwylo’r plant i’w gweld y naill ochr i’r drws, a dwylo’r rhieni ar y llall.