Mae Hassan Rouhani wedi cael ei ail-ethol yn Arlywydd Iran, ar ôl ennill 57% o’r bleidlais.

Mae ei fuddugoliaeth yn rhoi ail dymor iddo gwblhau ei agenda o sicrhau rhyddid a magu perthynas â gweddill y byd.

Roedd 70% o’r bobol oedd yn gymwys wedi bwrw eu pleidlais, wrth i’w wrthwynebydd pennaf mewn ras pedwar dyn, Ebrahim Raisi ennill 38% o’r bleidlais.

Enillodd Hassan Rouhani 23.5 miliwn o bleidleisiau allan o 41.2 miliwn – 56.4 miliwn o bobol sy’n gymwys i bleidleisio yn Iran.

Yn 2013, fe enillodd e 51% o’r bleidlais, gyda 73% o’r bobol oedd yn gymwys wedi bwrw eu pleidlais.

Arlywydd Iran yw ail arweinydd mwyaf pwerus y wlad, o dan y Goruchaf Arweinydd, sy’n cael ei benodi gan banel o glerigwyr.

Mostafa Mirsalim a Mostafa Hashemitaba oedd y ddau ymgeisydd arall yn y ras.