Pamela Anderson (Llun: CCA3 Glenn Francis o www.PacificProDigital.com)
Mae cyn-actores Baywatch, Pamela Anderson, wedi cyffesu teimladau o “gariad” at Julian Assange.

Mae sïon ar led bod y cyn-fodel Playboy yn canlyn sylfaenydd Wikileaks – dyn sydd wedi bod yn byw dan loches wleidyddol am bum mlynedd yn Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain.

Mewn neges hir ar ei blog mae Pamela Anderson wedi sôn am “frwydr ramantaidd” Julian Assange i ryddhau pobol y byd, ac am deimladau o “gariad” tuag ato.

Gwnaeth y ddau gwrdd â’i gilydd trwy’r dylunydd ffasiwn, y Fonesig Vivienne Westwood, ac yn y gorffennol mae’r actores wedi cyfeirio ato fel “ffrind annwyl”.

Mae honiadau bod Julian Assange wedi troseddu yn rhywiol yn Sweden ac mae’n bosib gall gael ei ddanfon i’r Unol Daleithiau, yn erbyn ei ewyllys, os fyddai’n gadael llysgenhadaeth Ecwador.