Llun gwneud o Kim Jong-un sy'n cael ei amau o fod y tu cefn i'r llofruddiaeth (P388388 CCA4.0)
Mae awdurdodau Malaysia wedi arestio gwraig o Myanmar ar amheuaeth o ladd hanner-brawd arweinydd Gogledd Corea.

Yr amheuaeth yw ei bod hi’n gweithio ar ran yr unben Kim Jong-un a’i fod yntau eisau cael gwared a rei hanner-brawd rhag ofn iddo’I herio am yr arweinyddiaeth, gan mai ef oedd mab hyna’r cyn-bennaeth Kim Jong-il.

‘Ceisio sawl tro’

Mae gwasanaeth ysbïo De Corea yn honni bod Gogledd Corea wedi bod yn ceisio lladd Kim Jong-nam ers pum mlynedd.

Roedd Kim Jong-nam wedi marw ym maes awyr Kuala Lumpur ym Malaysia ddydd Llun a’r amheuaeth yw ei fod wedi cael ei wenwyno.

Roedd adroddiadau ar y pryd fod dwy wraig wedi ymosod arno. – yn ôl awdurdodau De Corea, mae sawl ymgais wedi bod o’r blaen i ladd y ffoadur a oedd yn byw yn ddiweddar ym Macau, Singapore a Malaysia.

Roedd yn defnyddio  enw gwahanol i deithio.