Llifogydd Haiti - un drychineb naturiol ymysg nifer i daro'r wlad ers 2010
Mae Jovenel Moise wedi’i orseddu’n arlywydd newydd Haiti am y pum mlynedd nesa’ – a hynny wedi dwy flynedd galed o ymgyrchu.

Mae’r dyn busnes 48 oed wedi tyngu llw yng ngwydd gwleidyddion ei wlad ei hun ynghyd ag ymwelwyr diplomyddol o’r Unol Daleithiau, Feneswela a Ffrainc.

Gwenodd wrth i arweinydd y Senedd ei arwisgo.

Yn ystod ei araith gynta’, mae Jovenel Moise yn addo cyflwyno “gwelliannau go iawn”, yng nghefn gwlad yn arbennig. Mae wedi annog pobol i fod yn unedig, ac i ymladd llygredd er mwyn dod â buddsoddiad a swyddi i un o wledydd tlota’r byd.

“Gyda’n gilydd, fe allwn drawsnewid Haiti,” meddai.