Mae dyn sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am y saethu mewn mosg yn Quebec wedi cael ei gyhuddo o chwe achos o lofruddiaeth.

Mae Alexandre Bissonnette hefyd wedi cael ei gyhuddo o bum achos o geisio llofruddio mewn cysylltiad â’r saethu yn y mosg yng Nghanada nos Sul.

Mae heddlu Quebec wedi dweud fod yr ail ddyn gafodd ei arestio wedi’r ymosodiad bellach yn cael ei drin fel tyst.

Cafodd chwech o bobol eu lladd yng Nghanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Quebec nos Sul, tra bo pump arall mewn cyflwr difrifol a 12 wedi’u hanafu.

Fe fydd Alexandre Bissonnette yn ymddangos yn y llys nesaf ar Chwefror 21.