Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud bod yr actores Meryl Streep yn “cael llawer gormod o glod a chanmoliaeth gan Hollywood” ar ôl iddi hi ei feirniadu mewn araith yn seremoni’r Golden Globes yn Los Angeles neithiwr.

Roedd Meryl Streep, 67, yn cyfarch y gynulleidfa wrth iddi dderbyn gwobr am gyfraniad eithriadol i’r byd adloniant.

Er nad oedd hi wedi enwi Donald Trump, fe gyfeiriodd yr actores at y digwyddiad lle’r oedd yn ymddangos ei fod yn gwawdio newyddiadurwr anabl.

Dywedodd Meryl Streep: “Mae amarch yn gwahodd amarch. Trais yn annog trais. Pan mae’r pwerus yn defnyddio diffiniadau i fwlio eraill, rydym ni oll yn colli.”

‘Un o gefnogwyr Hillary’

Ymateb Donald Trump oedd: “Mae hi’n un o gefnogwyr Hillary, wnaeth golli ar raddfa fawr. Am y 1000fed tro, wnes i ddim gwawdio newyddiadurwr anabl. Mwy o honiadau celwyddog!”

Mae wedi cyfeirio at Meryl Streep fel un o gefnogwyr Hillary Clinton yn y gorffennol hefyd.