Anders Breivik (Llun: PA)
Fe fydd Anders Breivik yn ôl yn y llys yr wythnos hon wrth i Lywodraeth Norwy apelio yn erbyn dyfarniad llys fod ei ynysu yn y carchar yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Cafodd ei garcharu yn 2012 ar ôl ei gael yn euog o lofruddio 77 o bobol drwy eu bomio a’u saethu yn 2011.

Cafodd ei garcharu am 21 o flynyddoedd, ond mae modd ymestyn dedfryd y dyn 37 oed am gyfnod amhenodol os yw’n parhau i fod yn fygythiad i’r gymdeithas.

Yn ôl arbenigwyr, mae’n debygol y bydd yn treulio gweddill ei oes dan glo.

‘Triniaeth annheg’

Dywed Anders Breivik yn aml ei fod e’n cael ei drin yn annheg yn y carchar.

Y llynedd, fe wnaeth e ddwyn achos yn erbyn y llywodraeth, gan ddweud ei fod e’n cael ei ynysu, ei archwilio’n gyson a’i roi mewn cyffion am gyfnodau.

Mae hynny, meddai, yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Ond mae modd iddo chwarae gemau ar gyfrifiadur a gwylio’r teledu.

Mae e hefyd yn cwyno am safon y bwyd a’r ffaith fod rhaid iddo ddefnyddio cyllell a fforc plastig.

Mae’r llywodraeth yn dweud ei fod e’n cael ei drin yn hollol deg er gwaethaf erchylltra’i droseddau.

Maen nhw’n dadlau bod rhaid ei gadw ar wahân oherwydd ei fod e’n dreisgar ac yn fygythiad i garcharorion eraill.

Dyfarniad blaenorol

Ond ym mis Ebrill, penderfynodd Llys Rhanbarth Oslo fod rhaid parchu hawliau dynol brawychwyr a llofruddion, hefyd, gan orchymyn y llywodraeth i dalu costau cyfreithiol Anders Breivik, oedd yn cyfateb i 331,000 kroner (£31,786).

Ond fe wfftiodd honiadau gan Anders Breivik bod y carchar wedi ymddwyn yn groes i’w hawl i gael preifatrwydd a bywyd teuluol.

Cafodd ei ynysu er mwyn ei gadw draw oddi wrth frawychwyr posib eraill yn y carchar ar ôl cynllwynio’r ymosodiadau ar Orffennaf 22, 2011 yn ofalus.

Cafodd bom car ei ffrwydro y tu allan i bencadlys y llywodraeth yn Oslo, gan ladd wyth o bobol ac anafu dwsinau’n rhagor.

Ar ôl gyrru i ynys Utoya 25 milltir i ffwrdd, fe saethodd 69 o bobol yn farw, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n bobol ifanc.

Roedd yn honni ei fod yn arweinydd Cristnogol oedd yn arwain ymgyrch yn erbyn Mwslimiaid yn Ewrop.

Ond mae e bellach yn ei ddisgrifio’i hun fel neo-Nazi sy’n addoli Odin, un o dduwiau’r Llychlynwyr.

Mae disgwyl i wrandawiad, sy’n dechrau ddydd Mawrth, bara hyd at chwe niwrnod.