Mae o leia’ 23 o bobol wedi’u lladd, a 17 o bobol eraill ar goll, wedi i fferi fynd ar dân oddi ar arforfir prifddinas Indonesia.
Roedd y bad yn cario mwy na 230 o bobol o borthladd Muara Angke yn Jakarta i ynys wyliau Tidung, pan aeth ar dân.
Mae 23 o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty, tra bod y gwaith o chwilio am bobol sy’n dal ar goll, yn mynd rhagddo.
Mae llygad dystion wedi bod yn siarad â Metro TV, gan ddweud i’r tân gynnau rhyw chwarter awr wedi i’r fferi adael y lan yn Muara Angke.
Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân. Mae teithwyr wedi bod yn siarad am y modd y gwelson nhw fwg yn codi o injan y fferi.