Mae daeargryn cryf o dan y môr wedi ysgwyd Indonesia yn gynnar fore Mercher, gan ladd beth bynnag 54 o bobol a dymchwel adeiladau yn rhanbarth Aceh.

Bu farw 52 o bobol yn Pidie Jaya, yr ardal sydd agosa’ at ganolbwynt y daeargryn, a bu farw dau arall yn ardal Bireuen gerllaw.

Mae’r gwaith o geisio achub pobol o’r rwbel a’r llwch wedi dechrau, gyda channoedd o bentrefwyr yn dod i helpu’r heddlu a’r fyddin yn y gwaith cloddio yn nhre’ Meureudu yn ardal Pidie Jaya.

Y gred ydi fod pobol wedi’u claddu a’u dal yn gaeth dan domenni o goncrit a cherrig a arferai fod yn siopau ac yn dai.

Yn ôl adroddiadau, mae mwy na 300 o bobol wedi’u hanafu yn y digwyddiad, a thua chwarter o’r rheiny yn ddifrifol. Mae dros 280 o adeiladau wedi’u difrodi neu eu dinistrio, yn cynnwys 16 mosg a bron i 170 o gartrefi. Mae ffyrdd hefyd wedi’u hollti, ac mae polion teligraff a thrydan wedi’u llorio.