Mae un o sêr y gyfres ddrama ffantasi Game of Thrones yn annog pobol i roi’r gorau i fynychu sioeau dolffiniaid.

Ei gobaith yw niweidio’r fasnach mewn dolffiniaid a’r arfer yn Japan o’u dal mewn modd sydd, yn ôl y gwrthwynebwyr, yn greulon a ffiaidd.

Fe wnaeth Maisie Williams, sy’n actio ‘Arya Stark yn Game of Thrones, alw ar bobol i droi cefn ar sioeau dolffiniaid mewn tref fach yn Japan o’r enw Taiji.

Dyma’r lle a wnaed yn enwog yn dilyn llwyddiant ffilm The Cove, wnaeth ennill Oscar yn 2009 am ddangos dolffiniaid yn cael eu hela.

Enwogion eraill sy’n cefnogi’r dolffiniaid yw Brian May, Sting a Daryl Hannah.

Mae gan Maisie Williams bedwar miliwn o ddilynwyr ar Instagram ac mae hi’n lysgennad dros y prosiect i warchod y dolffiniaid.