Lluoedd Cwrdaidd yn brwydro i ad-ennill safleoedd IS yn Khazer, ger Mosul, Irac Llun: PA
Mae lluoedd Cwrdaidd Irac wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn gohirio eu cyrch i ddisodli’r Weriniaeth Islamaidd (IS) o Mosul yn Irac.

Daw hyn wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod wedi cipio rhai o’r pentrefi i’r dwyrain o ble y mae canolbwynt grŵp y Weriniaeth Islamaidd yn Mosul.

Dywedodd y Cyrnol Khathar Sheikhan ar ran y lluoedd Cwrdaidd eu bod wedi llwyddo i gyrraedd eu targedau ac yn “dal eu safleoedd” yn ardal Khazer yn awr.

Daw’r oedi ddiwrnod wedi i’r cyrch ddechrau yn Mosul ddydd Llun, sef ail ddinas fwyaf Irac a chadarnle dinesig olaf IS.

Mae disgwyl i’r cyrch bara rai wythnosau, ac mae lluoedd Irac wedi pwyso i barhau â chamau nesaf yr ymgyrch i adennill y ddinas oddi wrth IS.

Mae’r lluoedd yn cael cymorth gan y glymblaid sy’n cael ei harwain gan yr Unol Daleithiau.