Mae pobol Gwlad Thai yn mynd i’w gwaith heddiw mewn du, oriau’n unig wedi’r cyhoeddiad fod eu brenin, Bhumibol Adulyadej, wedi marw yn 88 oed.

Roedd yn cael ei ystyried yn ffigwr oedd wedi uno’r wlad.

Doedd y newyddion ddim yn syrpreis, ac roedd cannoedd wedi bod yn ymgynnull ers dydd Mercher y tu allan i ysbyty Siriaj yn y brifddinas, Bangkok, lle’r oedd y brenin wedi bod yn derbyn triniaeth ers peth amser.

Mae llywodraeth Gwlad Thai wedi cyhoeddi 100 diwrnod o alaru, a mis hefyd o foratoriwm ar ddigwyddiadau. Ond fe fydd byd busnes a thwristiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus yn dal i droi trwy’r cyfnodau hynny.