Mae Maer dinas Cannes yn Ffrainc wedi gwahardd Burkinis ar ei thraethau, ac yn bygwth dirwyo unrhyw ddynes sy’n gwysgo’r  dilledyn nofio sy’n gorchuddio’r hân fwyaf o’r corff.

Yn ôl gwrthwynebwyr mi fydd y gwaharddiad yn gelyniaethu Mwslemiaid yn Ffrainc.

Ond mae’r awdurdodau yn cyfiawnhau’r penderfyniad ar sail rhesymau diogelwch, gyda Ffrainc ar bigau’r drain yn dilyn ymosodiadau diweddar gan eithafwyr Islamaidd.

Daw’r gwaharddiad i’r dilledyn sy’n cael ei alw’n Burkini ac sy’n gorchuddio’r corff a thalp o’r pen, ynghanol y tymor gwyliau ar y Riviera Ffrengig.

Dywedodd Maer Cannes David Lisnard fod gwahardd y dillad nofio yn dangos “moeseg da a secliwlariaeth”. Mae’r Maer yn dadlau fod y Burkini yn gallu achosi trafferth cyhoeddus.

Dywedodd swyddog ar ran y Maer fod y gwaharddiad mewn grym tan ddiwedd Awst, gyda throseddwyr yn wynebu dirwy o 38 Ewro.

Yn ôl y Maer mae’r Burkini “yn wisg eithafiaeth Islamaidd, nid y grefydd Islamaidd”.

Rhybuddiodd cangen leol o’r Gynghrair Hawliau Dynol fod y gwaharddiad yn debyg o elyniaethu Mwslemiaid Ffrengig.

Fe ddywedodd mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn Islamoffobia yn Ffrainc eu bod am herio cyfreithlonrwydd y gwaharddiad yn y Llys.