Mae 37 wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad mewn man cysegredig Shïaidd, i’r gogledd o Baghdad, ac mae 62 o bobol eraill wedi cael eu hanafu, yn ôl swyddogion yn Irac.

Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth rocedi gael eu tanio at gysegrfan Sayyid Mohammed yn Balad, ac wedi hynny, fe wnaeth hunanfomiwr dargedu plismyn ger y fynedfa.

Fe wnaeth ail fomiwr fynd i’r safle gyda naw person arall â gynnau, gan dargedu’r heddlu a theuluoedd oedd yno i ddathlu gwyliau Eid al-Fitr, i nodi diwedd Ramadan.

Mae’r heddlu yn dweud y cafodd trydydd bomiwr ei ladd cyn iddo ffrwydro ei fomiau.

186 wedi marw dydd Sul

Does yr un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad eto, sydd wedi dod ar ôl digwyddiad tebyg ddydd Sul a laddodd 186 o bobol yn Baghdad.

Y Wladwriaeth Islamaidd (IS) oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad hwnnw – yr un mwyaf yn Irac ers i’r rhyfel dan arweiniad America a’r DU ddechrau yn 2003.

186 yw’r nifer swyddogol o bobol sydd wedi’u lladd ond mae tua 20 yn dal i fod ar goll, ac mae rhagor o gyrff yn cael eu tynnu o’r rwbel.

Fodd bynnag, mae Ahmad Roudaini, o swyddfa’r wasg adran iechyd y llywodraeth yn dweud bod y ffigwr cymaint â 292.

Fe wnaeth hunanfomiwr ollwng ffrwydron y tu allan i ganolfan siopa brysur ar stryd yn llawn pobol yn paratoi ar gyfer Eid al-Fitr.