Mae Quebec, sydd â chyfran sylweddol o siaradwyr Ffrangeg, yn barod i ddeddfu er mwyn rhoi’r gorau i’r ddefod hynafol fod rhaid i swyddogion etholedig dyngu llw i Frenin Lloegr.

Daeth Canada o dan reolaeth Prydain yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, ar ôl i Brydain drechu Ffrancwyr oedd wedi ymgartrefu yn Quebec, ac roedden nhw o dan eu rheolaeth tan 1982.

A hithau bellach yn aelod o’r Gymanwlad, mae’n un o nifer o wledydd yr hen Ymerodraeth Brydeinig sydd â Brenin neu Frenhines Lloegr yn bennaeth arni.

Ond mae’r rhai sy’n beirniadu’r ddefod o dyngu llw yn dweud ei bod yn arfer hynafol nad yw’n addas ar gyfer yr oes sydd ohoni.

Mae Simon Jolin-Barrette, arweinydd seneddol Clymblaid Avenir Quebec yn dweud eu bod nhw’n barod i ddeddfu ar y mater, gan wneud tyngu llw yn ddewis yn hytrach na gorfodaeth.

“Dw i’n credu bod Quebeciaid y tu ôl i ni,” meddai wrth ohebwyr yn y ddinas.

“Gallwn ni wneud hyn yn gyflym gyda’n gilydd.”

Gwrthwynebiad

Ddydd Mawrth (Tachwedd 1), dywedodd llefarydd Cynulliad Cenedlaethol Quebec fod yn rhaid i bob aelod etholedig dyngu llyw i’r Brenin Charles, ac nid dim ond i drigolion Quebec, er mwyn cael gwneud eu swyddi.

Daeth Charles yn bennaeth ar Ganada pan ddaeth i’r orsedd ar Fedi 8 yn dilyn marwolaeth Elizabeth II.

Ond mae aelodau etholedig dwy blaid sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i Quebec yn dweud y bydden nhw’n gwrthod tyngu llw, hyd yn oed pe bai’n orfodol.

Dywed Paul St-Pierre Plamondon, arweinydd Parti Quebecois, ei fod yn ei chael hi’n “ffiaidd” fod rhaid “tyngu llw i ymerodraeth drefedigaethol dramor achosodd niwed i Quebec”.

Dydy Quebec Solidaire ddim wedi gwneud sylw pellach hyd yn hyn.

Mae disgwyl i Gynulliad Cenedlaethol Quebec ymgynnull eto y mis yma yn dilyn etholiadau mis diwethaf, lle enillodd Clymblaid Avenir Quebec fwyafrif sylweddol.