Bydd arweinwyr Catalwnia a Sbaen yn cyfarfod cyn yr haf, ond does dim dyddiad pendant wedi’i bennu eto.

Cafodd hynny ei gytuno mewn cyfarfod rhwng Laura Vilagrà, un o weinidogion Catalwnia, a Félix Bolaños, un o weinidogion Sbaen, yn ystod cyfarfod ym Madrid ddoe (dydd Mercher, Mehefin 22).

Daw’r cyhoeddiad ddeufis ar ôl yr helynt ysbïo ‘Catalangate’.

Mae’r gweinidogion hefyd wedi cytuno i weithio tuag at ailddechrau trafodaethau annibyniaeth, oedd wedi dod i ben dro yn ôl.

Ysbïo

Mae mwy na 60 o wleidyddion, ymgyrchwyr a’u cydweithwyr sydd o blaid annibyniaeth wedi cael eu targedu gan raglen ysbïo Pegasus fel rhan o’r ymosodiad seibr mwyaf o’i fath yn y byd.

Yn ôl CitizenLab, yr ymchwilwyr sydd wedi bod yn ymchwilio i’r honiadau, rhywun o fewn gwladwriaeth Sbaen sy’n gyfrifol am ysbïo.

Yn y pen draw, fe gyfaddefodd Sbaen fod 18 o’r 60 o unigolion wedi bod yn destun ymchwiliad, a hynny gyda sêl bendith y farnwriaeth.

 

Cafodd pennaeth Canolfan Gudd-wybodaeth Sbaen ei ddiswyddo dair wythnos ar ôl i’r helynt ddod i’r amlwg, ond does dim eglurhad o’r union amgylchiadau wedi dod hyd yn hyn.

Cwynion eraill

Ymhlith cwynion eraill Catalwnia mae’r ffaith mai dim ond traean o’r arian a gafodd ei glustnodi yng nghyllideb Sbaen yn 2021 oedd wedi cyrraedd yn y pen draw.

Mae hynny’n cyfateb i 739.9m Ewro, ac mae’n golygu na welodd dau draean o brosiectau Catalwnia olau dydd.

Dyma un o brif gwynion Catalwnia ers blynyddoedd maith.

Ar y llaw arall, roedd buddsoddiad Llywodraeth Sbaen ym Madrid 184% gwaith yr hyn oedd wedi’i glustnodi yn y gyllideb.