Mae artist a baentiodd furlun trawiadol i ddangos undod ag Wcráin wedi penderfynu gwerthu printiau ohono i’r cyhoedd.

Bydd yr holl elw sy’n cael ei greu o werthu’r printiau hynny yn cael ei roi’n uniongyrchol i Apêl Ddyngarol Wcráin, oedd wedi cael ei lansio bythefnos yn ôl gan gorff DEC Cymru.

Ers lansio, mae’r apêl honno wedi codi dros £8.5m o bunnoedd i helpu’r ymateb ar lawr gwlad yn nwyrain Ewrop, ac mae’n cynnwys cyfraniad o £4m gan Lywodraeth Cymru.

Ers 5 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Mawrth 18), mae modd prynu’r printiau ar-lein i godi arian at yr achos.

‘Cyfle i godi arian angenrheidiol’

Mae’r artist, sy’n gweithio dan yr enw My Dog Sighs, wedi ei leoli yn Southsea yn Hampshire, ond fe baentiodd y murlun yn ystod taith ddiweddar i Gaerdydd.

Er ei fod wedi ei baentio ar stryd gefn yn ardal y Rhath, daeth y murlun i sylw cenedlaethol ar ôl i nifer ar gyfryngau cymdeithasol dynnu sylw ato.

“Fe wnaeth yr ymateb fy synnu i,” meddai My Dog Sighs wrth golwg360.

“Mae gweld yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin o flaen ein llygaid wedi bod yn erchyll.

“Roedd y rhwystredigaeth o wybod ei fod yn digwydd heb wybod beth i’w wneud nesaf yn ysgogaeth i fi wneud beth dw i’n ei wneud orau – paentio beth dw i’n ei deimlo.”

Bydd My Dog Sighs yn rhyddhau’r printiau gyda chefnogaeth rhai sydd wedi dangos gwerthfawrogiad o’r paentiad gwreiddiol.

“Mae’n gyfle i godi arian angenrheidiol i’r Pwyllgor Argyfyngau Trychineb,” meddai.

Gallwch brynu print eich hunain ar wefan 3030 Print.