Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn “cydymdeimlo’n fawr” gydag achos y beiciwr modur Harry Dunn, yn ôl Boris Johnson.
Trafododd arweinwyr yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig y gŵr 19 oed – a laddwyd yn Lloegr pan darodd car yr Americanes Anne Sacoolas i mewn i’w feic modur ym mis Awst 2019 – cyn uwchgynhadledd G7 arweinwyr y byd yng Nghernyw.
Sbardunodd y farwolaeth ddadl ryngwladol ar ôl i Anne Sacoolas gael imiwnedd diplomataidd a gallu ffoi i America heb wynebu unrhyw gosb.
Ers hynny mae hi wedi cael ei chyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Gofynnwyd i Boris Johnson a oedd unrhyw gynnydd wedi’i wneud o ran yr achos yn dilyn ei drafodaeth gyda Joe Biden.
Wrth siarad â’r BBC, dywedodd y Prif Weinidog: “Dylech chi – pan gewch chi’r cyfle – roi eich cwestiwn i’r Arlywydd oherwydd ei fod yn cymryd rhan weithredol yn yr achos.
“Fel y gwyddoch, mae ganddo ei resymau personol ei hun dros deimlo’n ddwfn iawn am y mater.
“Roedd yn cydymdeimlo’n fawr, ond nid yw hyn yn rhywbeth y gall y naill lywodraeth na’r llall ei reoli’n hawdd iawn oherwydd bod prosesau cyfreithiol yn dal i fynd ymlaen.
“Ond fe fynegodd gydymdeimlad, fel y mae’r llywodraeth hon yn parhau i wneud dros deulu Harry Dunn.”
Ychwanegodd fod system weithredol, gyfreithiol a barnwriaeth yr Unol Daleithiau yn “gweithio gyda’i gilydd”.
“Y teulu’n parhau i fynd ar drywydd cyfiawnder”
Dywedodd teulu Harry Dunn eu bod yn falch o weld yr achos yn cael ei godi.
“Mae rhieni Harry yn falch iawn o weld bod y Prif Weinidog wedi manteisio ar y cyfle i godi’r achos gyda’r Arlywydd Biden ar y cyfle cyntaf bosib,” meddai llefarydd ar ran y teulu, Radd Seiger.
“Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw’r mater hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Prif Weinidog a’i dîm am wneud hynny.
“Bydd y teulu’n parhau i fynd ar drywydd cyfiawnder nes iddo gael ei gyflawni.”
Mae’r teulu wedi herio’r imiwnedd diplomataidd a gafodd Anne Sacoolas, a bydd yr achos yn cael ei glywed yn y Llys Apêl y flwyddyn nesaf.