Mae Donald Trump wedi cael ei wahardd o Facebook am ddwy flynedd.

Roedd y cyn-arlywydd wedi cael ei wahardd am gyfnod amhenodol oherwydd y ffordd roedd wedi annog anhrefn treisgar yn Washington ym mis Ionawr.

Cafodd y gwaharddiad ei gadarnhau gan y rhwydwaith cymdeithasol y mis diwethaf, ond penderfynwyd hefyd fod angen rhyw fath o derfyn amser i unrhyw waharddiad o’r fath.

Wrth gyhoeddi’r gwaharddiad dwy flynedd ddoe, meddai Syr Nick Clegg, is-lywydd materion byd-eang a chyfathrebu Facebook:

“Yn wyneb difrifoldeb yr amgylchiadau a arweiniodd at waharddiad Mr Trump, credwn fod ei weithredoedd yn torri’n rheolau i’r fath raddau fel eu bod yn gofyn am y gosb fwyaf mae ein protocolau yn ei ganiatáu.

“Rydym yn gwahardd ei gyfrifol am ddwy flynedd, o gychwyn y gwaharddiad gwreiddiol ar 7 Ionawr eleni.”

Ychwanegodd y gallai’r gwaharddiad gael ei ymestyn ar ddiwedd y ddwy flynedd os bydd “risg difrifol i ddiogelwch y cyhoedd.”

Mae Donald Trump wedi ymateb trwy ddweud bod y gwaharddiad yn “sarhad”.

“Ni ddylai Facebook gael yr hawl i sensor a thawelu fel hyn,” meddai. “Yn y pen draw, byddwn ni’n ennill. All ein gwlad ddim cymryd y gamdriniaeth hon ddim mwy.”