Mae Donald Trump wedi lansio ei sianel gyfathrebu ei hun er mwyn cyhoeddi negeseuon, wrth i Fwrdd Arsylwi Facebook baratoi i benderfynu a fydd yn cael dychwelyd i’w platfform.

Mae’r sianel, From The Desk Of Donald J Trump, yn edrych fel Facebook a Twitter, ac mae’n cynnwys negeseuon byr, tebyg i’r rhai’r oedd Donald Trump yn arfer eu gyrru o’i gyfrifon eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gall defnyddwyr “hoffi” negeseuon, a’u rhannu nhw ar eu tudalennau Facebook a Twitter, ynghyd â dweud eu bod nhw eisiau cael eu hysbysebu bob tro y byddai’r cyn-Arlywydd yn cyhoeddi deunydd newydd.

Yn ogystal, mae’n bosib i ddefnyddwyr wneud cyfraniadau ariannol tuag at ymgyrch wleidyddol Donald Trump.

Yn nes ymlaen heddiw (dydd Mercher, Mai 5), bydd Bwrdd Arsylwi annibynnol Facebok yn cyhoeddi a ddylid gwahardd Donald Trump oddi ar y platfform am byth.

Mae nifer o’r negeseuon sydd wedi’u cyhoeddi ar y sianel newydd hyd yn hyn yn gwneud honiadau ffug fod Donald Trump wedi curo Joe Biden yn yr etholiad arlywyddol y llynedd.

Mewn negeseuon eraill, mae’n lladd ar wrthwynebwyr gwleidyddol, ac ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd Donald Trump ei wahardd rhag defnyddio Facebook, Twitter a nifer o lwyfannau eraill ddechrau’r flwyddyn am annog trais, gan gynnwys methu â chondemnio’r terfysgwyr a wnaeth ymosod ar adeilad y Capitol, gan fynd mor bell â’u canmol nhw.

Ar y pryd, dywedodd Mark Zuckerberg, pennaeth Facebook, eu bod nhw wedi dod i’r penderfyniad oherwydd fod Donald Trump wedi defnyddio’r llwyfan i “annog gwrthryfel treisgar yn erbyn llywodraeth a gafodd eu hethol yn ddemocrataidd”.

Ers i’w gyfnod yn Arlywydd ddod i ben, fe fu sôn y byddai’n creu ac yn lansio ei lwyfan cymdeithasol ei hun er mwyn osgoi’r gwaharddiadau a chyrraedd ei gefnogwyr yn uniongyrchol.

Arlywydd dan warchae wrth i’w deyrnasiad ddirwyn i ben

Donald Trump yn cael ei wahardd rhag trydar ac yn wynebu uchel-gyhuddiad arall