Mae rhagor na 4,000 o farwolaethau Covid-19 wedi digwydd mewn un diwrnod yn Brasil.

Dim ond yr Unol Daleithiau a Periw sydd wedi cofnodi rhagor na 4,000 o farwolaethau mewn un diwrnod cyn hyn.

Mae nifer o fusnesau wedi ail-agor a son fod y system iechyd wedi dymchwel mewn sawl rhan o’r wlad.

Dywedodd gweinidog iechyd Brasil ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 6) fod 4,195 o farwolaethau wedi’u cofnodi yn ystod y 24 awr flaenorol, gyda chyfanswm marwolaethau’r genedl yn agosáu at 340,000, yr ail uchaf yn y byd.

Dywedodd Miguel Lago, cyfarwyddwr gweithredol Sefydliad Astudiaethau Polisi Iechyd Brasil, sy’n cynghori swyddogion iechyd y cyhoedd, fod ailagor yr economi yn gamgymeriad ac mae’n ofni y bydd yn dod â niferoedd marwolaethau uwch fyth.

Mae’r Arlywydd Jair Bolsonaro wedi ceisio tawelu gofidion am y coronafeirws ers dechrau’r pandemig, gan wrthwynebu unrhyw gyfyngiadau er mwyn gwarchod yr economi.

India yn cofnodi 115,736 o achosion newydd

Yn y cyfamser mae India wedi cyrraedd uchafbwynt newydd arall gyda 115,736 o achosion coronafeirws wedi’u cofnodi yn ystod y 24 awr ddiwethaf.

Bydd New Delhi, Mumbai a dwsinau o ddinasoedd eraill yn gosod cyrffyw i geisio arafu’r gyfradd honno.

Roedd y cynnydd diweddaraf a adroddwyd heddiw yn pasio record dydd Sul (Ebrill 4) o 103,844 o achosion.

Roedd cynnydd o 630 o farwolaethau 630 yn ystod y 24 awr ddiwethaf, yr uchaf ers mis Tachwedd, gan godi cyfanswm marwolaethau;r wlad i 166,177 ers dechrau’r pandemig.

Mae arbenigwyr yn dweud eu bod yn beio’r cynnydd yn rhannol ar bobol yn diystyru rheolau ymbellhau cymdeithasol a gwisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus.

Mae’r cynnydd diweddaraf mewn heintiau yn waeth nag uchafbwynt y llynedd o fwy na 97,000 y dydd ganol mis Medi.