Bydd yr Arlywydd Donald Trump a’i wrthwynebydd Joe Biden yn mynd ben-ben am y tro cyntaf heno (nos Fawrth, Medi 29) wrth i’r ras arlywyddol boethi.

Bydd yn gyfle i’r ddau amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol y wlad, ac i fynd i’r afael â sawl perygl i’r wlad, gan gynnwys protestiadau hil a phandemig y coronafeirws, sydd wedi lladd dros 200,000 o drigolion y wlad ac wedi gweld miliynau o swyddi’n mynd.

Ond mae’n annhebygol erbyn hyn fod nifer fawr o bobol heb benderfynu dros bwy fyddan nhw’n pleidleisio, gyda’r materion sydd wedi codi’n arwain at farn gref y naill ffordd neu’r llall.

Joe Biden sydd ar y blaen yn y polau piniwn ar hyn o bryd, gyda’i fantais yn un gref yn genedlaethol ond yn llai mewn seddi ymylol.

Dydy’r ffordd mae Donald Trump wedi ymdrin â’r pandemig ddim yn debygol o ennill llawer iawn o bleidleisiau iddo, yn ôl y polau.

Mae’r ffrae ynghylch dewis barnwr i’r Goruchaf Lys yn sgil marwolaeth Ruth Bader Ginsburg a’r honiadau am faint o dreth mae Donald Trump yn ei thalu hefyd yn debygol o fod ymhlith y prif bynciau trafod.

Mae lle i gredu bod yr arlywydd yn colli tir ymhlith pleidleiswyr oedrannus, wrth iddo geisio ennill 270 o ‘golegau etholiadol’ er mwyn cael aros yn arlywydd.

‘Ymosodiad’

Mae Donald Trump wedi dweud wrth ei ymgynghorwyr ei fod e’n barod i ymosod ar Joe Biden, a’i gyhuddo o anwybodaeth a llygredd ariannol.

Ac mae e wedi mynd mor bell ag awgrymu fod Joe Biden yn cymryd cyffuriau ac wedi mynnu ei fod yn cael prawf cyffuriau.

Mae ei berfformiadau mewn areithiau wedi bod yn rhai cymysg, ond mae rhai yn dweud bod areithiau Donald Trump hefyd wedi bod yn ddi-sylwedd.

Mae lle i gredu y bydd Joe Biden yn achub ar y cyfle i amau nifer fawr o’r hyn mae Donald Trump wedi’i ddweud yn ystod ei gyfnod wrth y llyw er mwyn dangos nad oes modd ei gredu nac ymddiried ynddo.

Dywed Joe Biden ei fod yn disgwyl ymosodiadau “personol” gan yr arlywydd.