Cafodd mwy na 83,000 o achosion newydd o’r coronafeirws eu cofnodi yn India dros y 24 awr diwethaf.

Mae’n golygu bod cyfanswm yr achosion yn y wlad ers dechrau’r ymlediad bron â chyrraedd pum miliwn – yr ail nifer fwyaf ymhlith holl wledydd y byd islaw’r Unol Daleithiau.

Cafodd 1,054 o farwolaethau newydd eu hadrodd, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 80,776.

Mae nifer yr achosion yn parhau i gynyddu wrth i’r cyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio, gyda mwy na 600,000 o achosion wedi’u cofnodi yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Serch hynny, mae mwy o bobol wedi gwella o’r feirws nag yn unrhyw wlad arall yn y byd, yn ôl Prifysgol Johns Hopkins, sy’n dweud bod y ffigwr yn agos i 3.8m.