Roedd hyd at 60 o ffoaduriaid mewn cwch oedd wedi suddo ar lyn yn Nhwrci yr wythnos ddiwethaf, yn ôl y Gweinidog Materion Mewnol.

Aeth awdurdodau Twrci ati i chwilio am y cwch gyda hofrenyddion a chychod ar ôl i’r cwch oedd yn cario ffoaduriaid ar lyn Van fynd ar goll ar Fehefin 27.

Hyd yn hyn, mae timau achub wedi dod o hyd i chwe chorff.

Dywedodd Suleyman Soylu, y Gweinidog Mewnol a deithiodd i Van i oruchwylio’r gwaith achub, fod yr awdurdodau’n amcangyfrif bod y cwch yn cludo rhwng 55 a 60 o ffoaduriaid pan aeth i lawr mewn tywydd stormus.

Mae 11 o bobl wedi cael eu cadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r drasiedi, meddai, ac yn ôl Teledu HaberTurk, mae lle i gredu bod y ffoaduriaid yn hanu o Bacistan, Affganistan ac Iran.

Y llynedd, boddodd saith o ffoaduriaid a chafodd 64 eu hachub pan foelodd eu cwch yn yr un llyn, sy’n agos at y ffin ag Iran ond sy’n gorwedd o fewn ffiniau Twrci.

Mae lle i gredu bod smyglwyr yn cludo ffoaduriaid ar draws y llyn er mwyn osgoi mannau gwirio’r heddlu ar y ffyrdd.

Mae Twrci, sy’n gartref i ryw 3.7m o ffoaduriaid Syriaidd, yn brif groesfan i ffoaduriaid sy’n ceisio cyrraedd Ewrop.