Lazarus Chakwera yw arlywydd newydd Malawi.

Cafodd ei ethol yn dilyn ail-drefnu etholiad cyffredinol y wlad.

Fe yw chweched arlywydd y wlad ar ôl ennill 58.57% o’r bleidlais.

Mae’r canlyniad yn golygu bod rhaid i Peter Mutharika adael ei rôl.

Yn ei araith gyntaf o’r brifddinas Lilongwe, mae’r arlywydd newydd wedi galw am uno’r genedl ac wedi dweud bod gan “bawb gartref ym Malawi” waeth bynnag am eu gwleidyddiaeth.

Protestiadau

Daw’r canlyniad ar ôl misoedd o brotestiadau ar y strydoedd yn erbyn canlyniad yr etholiad diwethaf dros flwyddyn yn ôl.

Fis Mai y llynedd, cafodd Peter Mutharika ei gyhoeddi’n arlywydd.

Ond cafodd y canlyniad ei wyrdroi yn dilyn anghysonderau, gan gynnwys y defnydd o hylif cywiro ar bapurau pleidleisio.

Er i Peter Mutharika feirniadu’r modd y cafodd yr etholiad ei gynnal, mae’n galw am heddwch yn y wlad er bod ei blaid yn galw am gynnal yr etholiad eto fyth.